Grahame  Davies

Grahame Davies

Contemporary Poetry
Welsh

Homepage
->Villanelle y Cymoedd ->
->Rough Guide

Translations: de

->
->Coch

Translations: de

->
->Y Mynyddoedd ->
->Llwyd

Translations: de

->
->Berlin ->
->Creator

Translations: de

->
->Competitor ->
->Tywyllwch ->
->Unffurf

Translations: de

->

Grahame Davies

Audio 

You can read this poem in the following translations:

Der Begründer (German)

Creator

(While walking near Offa’s Dyke in his home village of Coedpoeth one Sunday morning in early 1945, Harold Tudor heard a young delivery boy singing a Welsh song to himself. In that instant, he was inspired to establish the International Eisteddfod as a means of healing the divisions of war.)


Man cwrdd, neu fan cau allan ydyw’r ffin;    
â chraith Clawdd Offa’n hollti’r fro yn ddwy,   
eiddo pob enaid byw yw dewis p’un.               

Ar fore Sul, cael tro ar ben dy hun                   
ar hyd y lôn sy’n derfyn gwlad a phlwy’;         
man cwrdd, neu fan cau allan ydyw’r ffin.      

Llais gynnau pell y grymusterau blin. 
Llais plentyn na ŵyr ddim o’u dicter hwy;    
eiddo pob enaid byw yw dewis p’un.     

Ac yn y fan,  gweld popeth megis llun:   
y byd lle na fydd codi arfau mwy,   
man cwrdd, neu fan cau allan ydyw’r ffin. 

Dagrau iachâd sy’n glasu’r erwau crin,  
neu’r dicter cyfiawn sy’n coleddu’r clwy’,  
eiddo pob enaid byw yw dewis p’un.    

Y cenedlaethau’n rhannu’r gân fel gwin,     
heb feddwl gyntaf pam, na ble, na phwy;           
man cwrdd, neu fan cau allan ydyw’r ffin, 
eiddo pob enaid byw yw dewis p’un.              
Top

©  Grahame Davies