Grahame  Davies

Grahame Davies

Contemporary Poetry
Welsh

Homepage
->Villanelle y Cymoedd ->
->Rough Guide

Translations: de

->
->Coch

Translations: de

->
->Y Mynyddoedd ->
->Llwyd

Translations: de

->
->Berlin ->
->Creator

Translations: de

->
->Competitor ->
->Tywyllwch ->
->Unffurf

Translations: de

->

Grahame Davies

Audio 

You can read this poem in the following translations:

Gleichartig (German)

Unffurf

Rhai unffurf o ffurfiol yw’r Siapaneiaid. 
Os am eu denu i agor ffatri
ym mlaenau rhyw gwm diarffordd
gwell yw ichi ddysgu eu defodau dieithr
fel cyfnewid cardiau yn syth wrth gyfarfod, 
a selio bargen ag anrheg fach. 
Selio bargen y buwyd y diwrnod hwnnw
mewn cyfarfod bach stiff ym mharlwr y maer;

tri phennaeth busnes o Siapan,
yn eu siwtiau unffurf,
yn ddifynegiant, ddi-Saesneg;
a’r cyfieithydd nerfus yn ddolen
rhyngddyn nhw a'r tri gwr lleol 
y maer, ei ddirprwy,
a’r ffotograffydd
oedd yno i gofnodi’r foment fawr.
Y cyflwyno i gychwyn:
‘Mr Sakamoto’; bow bach cwrtais.
‘Mr Sato’; bow.
‘Mr Fujimoto’; bow.
Top

©  Grahame Davies